1,(2),3; 1,3,4,5. I'r Iesu boed y clod, Tra byddo bod na byd; Efe oedd cyn y diluw mawr, Efe sy'n awr o hyd; Yn gyfaill ac yn Dduw, I bob rhyw lwyth ac iaith, Cawn ninnau'n harwain uwch y nen, Yn gryno i ben ein taith. Pryd hyny daw yn rhydd Y rhei'ny sydd yn gaeth; Fe gaiff rhai oedd ar drengu 'mron Ryw dirion dyner faeth: Agorwyd ar brydnawn Ryw ffynnon lawn o hedd, Ar Galfarī, i ddiodi'r sawl Sy ganddynt hawl i'r wledd. O fore llawn o hedd, Bydd hon yn wledd o fri, Pan y cyhoeddir Jubil lawn, Yn hyfryd iawn i ni, A'r utgyrn arian llon, Trwy'r ddaear gron a'u sain, Yn seinio hedd i aflan ddyn, Ie'r gwaelaf un or 'rhai'n. Fe nertha hyn ein traed, Fyn'd tua gwlad ein Duw, Heb ddigaloni, na gwanhau, Mewn tonnau o unrhyw: Ond morio yn ein hynt, Gyd â'r deheu wynt clir, A chyn machludo haul brydnhawn, Meddiannu cawn y tir, Ni deithiwn yn y blaen, Cawn weled Canaan wiw, A gwledda gyda'r dorf yn un, Sy â'u gynau'n wyn eu lliw: Cawn fyn'd i mewn i'w plith, Ac yfed byth o'u hedd, Anfeidrol gariad perffaith gwiw, Trag'wyddol yw y wledd. - - - - - I'r Iesu boed y clod, Tra byddo bod na byd, Efe oedd cyn y diluw mawr, Efe sy'n awr o hyd; Yn gyfaill ac yn Dduw, Pob llwythau, rhyw, ac iaith, Efe a'n harwain ni uwch nen, Yn gryno i ben ein taith. Mae rhinwedd yn dy waed, I faddeu beiau mwy; Nag y gall angel fyth na dyn, I rifo mo honynt hwy; Mae ffynnon ar y bryn, A ylch yn wyn a glān, Bechodau o ryw ffieiddia 'rioed, Rifedi'r tywod mān. Does diwedd byth na thrai, Ar gariad angeu loes; Uwch pris o'r gwerthfawroca gaed, Yw haeddiant gwaed y groes; Fe gana'r Negroes du, Fe gana'r indian draw, Fe faddeu i'r aflan oes y sy, Fe faddeu i'r oes a ddaw. Ffarwel fo i haeddiant dyn, Ffarwel at ddyn i fyn'd; Ffarwel doethineb a phob dawn, Fo i natur lawn yn ffrynd; Aeth dyn a'i allu mawr, Yn awr i lawr yn 'ddim; Iesu fydd bellach yn mhob man, Fy nharian a fy ngrym. - - - - - I'r Iesu byddo'r clod Tra fyddo bod na byd; Efe oedd cyn y diluw mawr, Efe sy'n awr o hyd; Yn gyfaill ac yn Dduw Pob llwythan, rhyw, ac iaith; Efe a'n harwain uwch y nen Yn iach i ben ein taith. 'Does bellach ddim ond mawl, A chanmawl fyth ein Duw, Ein tŵr a'n tarian yn mhob man, Efe ei hunan yw; 'Dyw pechod er ei rym, Euogrwydd llym a'i boen, O bwysau ddim o flaen y Tad, At werthfawr waed yr Oen. Ffarwel fo i haeddiant dyn, Ffarwel at ddyn i fyn'd; Ffarwel doethineb a phob dawn, Fo'i natur lawn yn ffrynd: Aeth dyn a'i allu mawr, Yn awr i lawr yn ddim; Boed Iesu bellach yn mhob man Fy nharian a fy ngrym.William Williams 1717-91
Tonau [MBD 6686D]: gwelir: Fe 'nillodd Iesu'r dydd Ni chaiff y dyfroedd maith Wel deuwch tua'r wlad |
To Jesus be the praise, While there is being or a world; He was before the great deluge, He now still is; Friend and God, To every kind of tribe and language, We may get led above the sky, Soundly to our destination. Then shall come free Those who are captive; Those who were almost perishing shall get Some gentle tender nourishment: Opened in the afternoon was Some fount full of peace, On Calvary, to give drink to the poor, Who have a right to the feast. From the full morning of peace, This will be an esteemed feast, When the full Jubilee is announced, Delightfully to us, With the joyful silver trumpets, Through the round earth with their sound, Sounding peace to unclean man, Yes the worst one of them. This strengthens our feet, Going towards our God's land, Without disheartening, or weakening, In some waves: But sailing in their course, Together with the clear south wind, And before the afternoon sun sets, We will get to possess the land. We journey in the fore, We may get to see worthy Canaan, And feast with the multitude as one, Who have their gowns coloured white: We may get to go into their midst, And drink forever of their peace, Immeasurable, perfect, worthy love, Eternal is the feast. - - - - - To Jesus be the praise, While every there is being or world, He was before the great deluge, He is still now; As friend and as God, Of every tribe, kind, and language, He shall lead us above the sky, Soundly to our destination. There is virtue in thy blood, To forgive more faults, Than ever an angel or man can Number; There is a fount on the hill, Which washes white and clean, Sins of the most detestable ever, As numerous as the fine sand. There is never any end nor ebbing, To the love of the throes of death; Above the price of the most precious ever blood, Is the merit of the blood of the cross; It bleaches the black Negro, It bleaches yonder Indian, It forgives the unclean of the age that is, It forgives the age to come. Farewell be to the merit of man, Farewell towards man to go; Farewell wisdom and every gift, That be to full nature as a friend; Man and his great power have gone, Now down to nothing; Jesus shall be henceforth everywhere, My shield and my force. - - - - - To Jesus be the praise, While there is being or a world; He was before the great deluge, He now still is; Friend and God, Of every tribe, kind, and language, He will lead us above the sky, Soundly to our destination. There is henceforth nothing but praise, And extolling forever our God, Our tower and our shield in every place, He himself is; Sin is not, despite its force, Sharp guilt or its pain, Of any weight before the Father To the precious blood of the Lamb. Farewell to human merit, Farewell to fleeting man; Farewell wisdom and every gift, Be its full nature a friend: Man and his great ability is going Now down to nothing; Let Jesus henceforth be everywhere My shield and my strength.tr. 2009,22 Richard B Gillion |
|